Tudalen:Gwaith Alun.pdf/103

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ymffrost ynoch yr adroddais ef; ond yn hytrach er eich annog i uno gyda mi mewn diolchgarwch i'r Duw a fu mor dirion wrthyf. Bydd yn dda genych glywed fy mod i ac oddeutu hanner dwsin o'm cyd-ysgolheigion wedi llwyddo i gael Cymdeithas Genadawl fechan yn ein hathrofa. Yr ydym hefyd yn ymgyfarfod yn ystafelloedd ein gilydd, yn olynol, ar nosau Sul, i ddarllen y Bibl a gweddio. Nos Sul diweddaf yr oeddynt oll yn fy ystafell i: a phan byddo dadwrdd cyfeddach yn taro ar ein clustiau o ystafelloedd eraill, gallwn ddweyd, "Rhoddaist fwy llawenydd yn ein calon nag yr amser yr amlhaodd eu bŷd a'u gwin hwynt."

Hyfryd iawn oedd genyf glywed am ymwared fy anwyl chwaer. Cofiwch fi ati yn garedig, at fy mrawd, yr holl blant, ac yn enwedig at y ferch ddieithr. Buasai dda genyf allu anfon anrheg iddi hi a'i mam, ond mae hynny yn bresenol o fy nghyrraedd. Gadewch iddo—mae'r galon yn llawn, os yw'r pwrs yn wag. Byddwch gystal a rhoddi y penhillion canlynol iddi yn lle Valentine

Henffych, ferch, i fyd o ofid,
Byd y dagrau, byd y groes
Agoraist lygad ar yr adfyd,
Ti gei flinder os cei oes.
Mae gwlad well tu draw i'r afon,—
Nes cael glan ar oror iach,
Rhag pob drwg, y Duw sy'n Sïon,
Fo'n dy noddi, Marged bach.

Mae'm dychymyg fel yn gwrando
P'un a glywaf mo dy sain,—
Gan holi'r awel sy'n mynd beibio,
A yw'th wyneb fel dy nain?