Tudalen:Gwaith Alun.pdf/113

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"A'th ddoniau yn nwch, ac yn uwch dy sefyllfa,
A'th enaid yn dân o enyniad y Nef,
Cyhoeddaist ti, Heber, yr unrhyw ddiangfa,
Gyda'r un serch ac addfwynder ag ef;
Dyferai fel gwlith ar y rhos dy hyawdledd,
Enillai'r digred at y groes a'r gwirionedd,
Llonyddai'r gydwybod mewn nefol drugaredd;—
Mor chwith na chaf mwyach byth glywed dy lef.

"Doe i felynion a gwynion yn dryfrith,
Cyfrenit elfennau danteithion y nen;
Y plant a feithrinit neshaent am dy fendith,
A gwenent wrth deimlo dy law ar eu pen;
Doe y datgenit fod Nef i'r trallodus—
Heddyw ffraethineb sy' fud ar dy wefus—
Ehedaist o'r ddaear heb wasgfa ofidus,
I weled dy Brynwr heb gwmwl na llen.[1]

'Fy ngwlad! O fy ngwlad! bu ddrwg i ti'r diwrnod
'Raeth Heber o rwymau marwoldeb yn rhydd;
Y grechwen sy'n codi o demlau'r eulunod,
Ac uffern yn ateb y grechwen y sydd;
Juggernaut[2] erch barotoa'i olwynion—
Olwynion a liwir gan gochwaed dy feibion—
Duodd y nos—ac i deulu Duw Sïon
Diflannodd pob gobaith am weled y dydd."

Yn araf, fy mrawd, paid, paid anobeithio,
Gwnai gam âg addewid gyfoethog yr IÔR

  1. Angeu disyfyd a gymerodd Heber ymaith tra y mwynhai drochfa dwymn. Y dydd o’r blaen—y Sabbath—cyflawnai ddyledswyddau ei daith esgobawl.
  2. Juggernaut—un o eilunod pennaf Hindostan. Ar ei gylchwyl llusgir ef ar gert enfawr i ymweled â’i hafoty. Ymdafla miloedd o’i addolwyr dan ei olwynion trymion, ac yno y llethir hwynt.