Tudalen:Gwaith Alun.pdf/58

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Prydain yn 429

Hîl Gomer yr amser hyn,
Oedd o nodwedd anhydyn;
Amryw nwyd wnae Gymru'n waeth,
Mawr gynnen, a Morganiaeth;
Gwyr digariad i'w goror,
Lanwai â cham, lan a chôr
Rhai ffol yn cymysgu'r ffydd
A choelion am uchelwydd;
Gwadu Crist, neu gydio'u cred
Ar glebr am "dreiglo abred";
Pictiaid, Ysgotiaid, weis cas,
Ruthrent, lunient alanas;
A Phrydain heb undeb oedd,
Na llyw wrth ben ei lluoedd;
Y llysoedd, yn lle iesin
Farnu gwael, oe'nt defyrn gwin;
Brad amlwg, a brwd ymladd,
Gorthrech, cri, llosgi, a lladd,
Wnae Albion,—â'u troion trwch
Yn ail i ryw anialwch.

Taith y ddau

Y teulu apostolaidd
Eu bron, cyn gorffwyso braidd,
Drwy'r wlad, ar waith clodadwy
Eu Tad, ymegnient hwy.


Gan foreu godi,—rhoddi'n rhwyddion
Fyrr o Gilead wrth friwiau gwaelion;
Digyrith bleidio gwirion—rhag gwrthdrin,
Rhoi llaeth a gwin i'r llwythau gweinion.