Tudalen:Gwaith Alun.pdf/76

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Unwaith ni wrendy'r annuw,
I'w dilyn mae dychryn Duw;
Eu heirf serth, yn y twrf sydd,
Wana galon eu gilydd;—
Astalch i astalch estyn,
A chledd sydd yng ngledd y'nglŷn.

Clywai Alun destun da,
Alawon Haleluia;
A chiliodd dros ei cheulan,—
Hi droes lif ar draws y lan;
A mynnent hwy, er maint hon,
Yn eu braw, rwyfaw'r afon
I dawch Alun dychwelynt,—
Aeth hon fel y Gison gynt
A mawr dwrdd—ym merw'r donn,
Cell agerdd cylla eigion
Gwenodd Alun, gwyn ddiluw,
Gael yno dorf gâlon Duw;
Llafuriodd y llifeiriaint,
Gyda si, i gadw y saint;
Sugnai'r llyn y gelyn gau,
Gwingodd dan grafanc Angau.

O foreu dwl, ar fyrr daeth
Gwawr deg o waredigaeth;
'Nawr gwelai'r Cymry'r gâlon,
Yn soddi is dyli'r donn;
Gan wau yn dyrrau dirif,
A swn eu llais yn y llif;
Llifeiriant a i holl farrau,
Tonnau certh, arnynt yn cau—
Nodent nad oedd mewn adwy,
Glan, na maes, un gelyn mwy;
Prin coelient—safent yn syn—
Ddolef eu ciaidd elyn.