Tudalen:Gwaith Alun.pdf/82

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

EMYN PASG

Wele'r Ceidwad gaed yn Meth'lem
Acw'n marw dan ei loes,
A gwyryfon tyner Salem
'N gwlychu â dagrau droed ei groes
Caua'r haul ei lygaid llachar
Rhag gweld clwyfo'r Sanct ei hun;
Ei ruddfanau sigla'r ddaear,
Cryna pob peth ond y dyn.

Deuwch saint, gollyngwch ddagrau
Uwch trychineb Calfari,
Dros yr hwn a roes ochneidiau
Dan y baich haeddasoch chwi;
Drosoch hidlodd ddafnau heilltion
Is arteithiau gŵg y nen,
Nid o ddwfr, ond gwaed ei galon,
Yna trengodd ar y pren.

Dyma dristwch heb ei debyg,
Gras a chariad pur y'nglŷn,
Duw'r gogoniant dan y dirmyg,
Ac yn marw i brynu dyn
Ond wele achos llawenychu!
Testun cân dragwyddel fydd,—
Iesu'r Ceidwad sy'n dadebru
'N gynnar ar y trydydd dydd.

Gwelwch fel mae'n concro angau!
Syllwch ar ei ddwyfol wedd!
Grym ei fraich, a gair ei enau,
Sydd yn dryllio bolltau'r bedd
Llengau'r nef, anrhaethol nifer,
A'i gwarchodant tua'i wlad—
Rhwygai cerddi yr ehangder,
Cerddi croeso i lys ei Dad.