Duw y duwiau wedi ymddangos
Ynghnawd a nattur dynol ryw;
Dyma'r person a ddyoddefodd
Yn ein lle ddigofaint llawn,
Nes i Gyfiawnder waeddi,—"Gollwng
Ef yn rhydd, mi gefais iawn."
4. O ddedwydd awr tragwyddol orphwys
Oddiwrth fy llafur yn fy rhan,
Ynghanol môr o ryfeddodau
Heb weled terfyn byth, na glan;
Mynediad helaeth byth i bara,
I fewn trigfanau tri 'n un,
Dwr i'w nofio heb fynd trwyddo,
Dyn yn Dduw, a Duw'n ddyn.
ER mai cwbwl groes i nattur
HYMN 4.
1. ER mai cwbwl groes i nattur
Yw fy llwybur yn y byd,
Ei deithio a wnaf, a hyny 'n dawel
Yngwerthfawr wedd dy wyneb pryd ;
Wrth godi'r groes ei chyfri 'n goron,
Mewn gorthrymderau llawen fyw,
Ffordd yn uniawn, er mor ddyrus,
I ddinas gyfaneddol yw.
2. Ffordd a'i henw yn Rhyfeddol,
Hen, ac heb heneiddio, yw;
Ffordd heb ddechreu, etto 'n newydd,
Ffordd yn gwneud y meirw 'n fyw;
Ffordd i enill ei thrafaelwyr,
Ffordd yn Briod, Ffordd yn Ben,
Ffordd gyssegrwyd, af ar hydddi,
I orphwys ynddi draw i'r llen.