Tudalen:Gwaith Ann Griffiths CyK.pdf/44

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Ni ddaeth i fwrdd cyfiawnder Duw

Ni ddaeth i fwrdd cyfiawnder Duw,
Wrth gofio pechod,
Ond cysgodau o'r sylwedd byw,
Oedd i ddyfod;
Y Jubili pan ddaeth i ben,
Y llen a rwygwyd,
A'r ddeddf yn Iesu ar y pren
A ddigonwyd.

Nac edryched neb i gloffi

Nac edryched neb i gloffi
Arnaf, am fy mod yn ddu;
Haul, a gwres ei belederau
Yn tywynu'n danbaid arnaf sy;
Mae a'm cuddia,
Cysgod lleni Solomon.

Pan gymerodd pechod aflan

Pan gymerodd pechod aflan,
Feddiant ar y cyntaf ddau,
Duw y cariad aeth dan rwymau,
Yn ei hanffod i gasau;
Eto'n caru ac yn achub
Yr un gwrthddrychau o'i ddwyfol lid,
Mewn ffordd gyfiawn, heb gyfnewid,
Ond perffaith Fod, yr un o hyd.

ANN GRIFFITHS.

Y peth nesaf ar yr ysgriflyfr yw "pregeth ar Habacuc 1. 13, gan John Hughes, pregethwr yr efengyl yn sir Drefaldwyn, Hydref 22, 1805."

Yr oedd Ann Griffiths wedi ei chladdu Awst 12, 1805. Y mae'n amlwg felly, pod bron yr oll or emynnau hyn wedi eu hysgrifennu cyn ei marw.

Tua diwedd yr ysgriflyfr, ar ol aralleiriad o Ganiad Solomon, ceir yr hymnau sy'n canlyn.