Tudalen:Gwaith Ann Griffiths CyK.pdf/52

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Ffrydiau tawel, byw rhedegog

Ffrydiau tawel, byw rhedegog,
O dan riniog ty fy Nuw,
Sydd yn llanw, ac yn llifo
O fendithion o bob rhyw;
Dyfroedd gloyw fel y grisial,
I olchi'r euog, nerthu'r gwan,
Ac a ganna'r Ethiop duaf
Fel yr eira yn y man.

O RHWYGA'R tew gymylau duon

O RHWYGA'R tew gymylau duon
Sy'n cuddio gwedd Dy wyneb gwiw;
Nid oes bleser a'm diddana
Ond yn unig Ti, fy Nuw:
Môr di-drai o bob trugaredd
Yw'th iachawdwriaeth fawr ei dawn,
Lanwodd ac a lifodd allan
Ar Galfaria un prydnawn.

NID oes wrthrych ar y ddaear

NID oes wrthrych ar y ddaear
Leinw'm henaid gwerthfawr, drud;
Fy unig bleser a'm diddanwch
Yw hyfryd wedd Dy wyneb-pryd ;
Gwedd Dy wyneb dyr y clymau
A phob creadur ar y llawr,
A gwna enw câr a chyfaill
Yn ddim er mwyn Dy enw mawr.

O ARGLWYDD Dduw rhagluniaeth

O ARGLWYDD Dduw rhagluniaeth,
Ac iachawdwriaeth dyn,
Tydi sy'n llywodraethu
Y byd a'r nef Dy Hun;
Yn wyneb pob caledi
Y sydd, neu eto ddaw,
Dod gadarn gymorth imi
I lechu yn Dy law.