Tudalen:Gwaith Caledfryn.pdf/12

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yw. Mae ambell linell hapus wedi dod yn rhan o feddwl gwlad; ond yr oedd yn rymusach fel athro beirdd nag fel bardd ei hun.

Yr oedd yn un o'r beirniaid mwyaf welodd Cymru. Yr oedd yn llai ei gydymdeimlad na beirniaid mawr ereill Cymru, rhai fel Gwallter Mechain neu Eben Fardd. Ond prin y bu ei debyg o flaen tyrfa. Yr oedd ei ymddanghosiad urddasol, ei berson hardd, ei areithyddiaeth bur, ei allu i fynegi condemniad neu ddirmyg, yn ei wneud yn allu ar y llwyfan. Cymerer ei feirniadaetli yn Aberystwyth fel esiampl. Disgwyliai'r dorf wrth ei wefusau am oriau tra beirniadai'n fanwl, a thra'r adroddai'r farwnad fuddugol ar ei hyd. A ces un beirniad heddyw allai wneud hyn, ac a oes torf wedi ei gadael yng Nghymru a adawai iddo?

Tybiaf fod lle i ofni yr anghofir gwaith mawr oes Caledfryn, a gobeithiaf y tynn y gyfrol fechan hon sylw at ei lafur a'i athrylith eto. Wrth gyflwno tysteb iddo yng Nghaernarfon, dywedodd Emrys,-"Y mae dwylaw ein Brenhines hoff wedi bod yn rhoddi llawryf enwogrwydd ar eich pen; ond yr ydym yn hyderu y bydd i chwi dderbyn, o law uwch, wobr ardderchocach yn y dydd diweddaf, yn dywedyd, Da was da a ffyddlawn.' Ac na fydded i'w genedl, y genedl gerodd, y genedl. y gwnaeth gymaint dros ei rhyddid a'i meddwl, ac am dâl mor fychan, anghofio rhoddi coron serch ac edmygedd iddo.

OWEN M. EDWARDS.