Tudalen:Gwaith Caledfryn.pdf/11

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

selog, wnaeth fwyaf o bawb i wneud beirdd yr Eisteddfod yn sobr.

Yn 1848 symudodd at eglwys fechan yn Aldersgate, yn Llundain, ond buan y tynnodd hiraeth am y mynyddoedd ef adre'n ol. Yn 1850 cymerodd eglwys Llanrwst. Yna aeth i eglwys Beulah, ger Bangor. Yn 1857 derbyniodd alwad, wrthodasai ddwy flynedd ar bymtheg cynt, i hen eglwys y Groes Wen. Yno, o'r diwedd, arosodd a bu'n hapus hyd ddiwedd ei oes. Ni chafodd winllan mor aeddfed o'r blaen, na phraidd mor rywiog a hawddgar; ac yr oedd ystormydd a phrofedigaethau, wedi llareiddio llawer ar ei natur benderfynol, boethlyd, a gwrol yntau. Er mai i'w weinidogaeth gref a llym y rhoddai doraeth ei amser, gwnaeth wrhydri mewn llawer cyfeiriad arall.

Yr oedd yn llenor llafurus, ac yn ddadleuydd hyawdl dros ryddid, cyd-raddoldeb, gonestrwydd, a heddwch. Ysgrifennodd i bron bob cyhoeddiad. Bu'n golygu y Sylwedydd, y Gwron, Cylchgrawn Rhyddid, yr Amaethydd, y Tywysog, y Seren Ogleddol, ac adran hanesiol y Dysgedydd. Cyhoeddodd draethodau a llawlyfrau, golygodd weithiau beirdd ac emynwyr; bu'n athro llenyddol i'w oes.

Bu'n fardd ar hyd ei oes hefyd. Yn 1831 cafodd dlws o law'r Dywysoges Victoria yn Eisteddfod Beaumaris am ei awdl ar "Ddrylliad y Rothsay Castle;" yn y Fenni yn 1838 cafodd wobr am ei farwnad am Gomer a Ieuan Ddu; yn Rhuddlan yn 1850 efe ganasai oreu er cof am Wallter Mechain. Y mae ei farddoniaeth yn oleu a chywir; ond llenor yn canu