Tudalen:Gwaith Caledfryn.pdf/10

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a phregethu oedd yn mynd a'i fryd. Yr oedd gan yr Eisteddfod a'i beirdd swyn arbennig iddo.

Yn 1821 ymunodd â'r beirdd yn Eisteddfod Caernarfon, yr oedd wedi bod yn ysgrifennu clod emynnau Maes-y-Plwm yn Seren Gomer. Yn 1822 cafodd wobr am englynion yn Eisteddfod Aberhonddu. Yr oedd yn athro yn yr Ysgol Sul, ac yr oedd Roger Edwards yn ei ddosbarth yn Ninbych.

Mae'n debyg nad oedd ei duedd lenyddol yn hollol wrth fodd Methodistiaid Dyffryn Clwyd, ac am rai blynyddoedd bu'n cloffi rhwng dau enwad; ond yn 1826, gan dybio fod mwy o ryddid ymysg yr Anibynwyr, ymunodd â hwy ar anogaeth daer ei hen athraw, y Parch. Arthur Jones o Fangor.

Yn 1826 dechreuodd bregethu; bu'n weinidog llafurus a hyawdl ar hyd ei oes. Ar gais Williams o'r Wern, dechreuodd yn Llannerch y Medd, yn 1829, am gyflog o drí a chwech yr wythnos. Yn 1831 symudodd i Gaernarfon, a bu yno hyd 1848. Yma, fel llenor ac efengylydd a gwleidyddwr, cafodd yrfa egniol ac ystormus. Cafodd ei gam esbonio. Yr oedd ei ryddfrydiaeth eithafol yn tarfu'r Methodistiaid, a chyhuddid ef o ymosod ar John Elias. Yr oedd y Diwygiad Dirwestöl yn ysgubo popeth o'i flaen, cafodd yntau lawer o amhoblogrwydd wrth wrthod rhoddi ei ryddid i fyny. Er hynny, dylid cofio dau beth nid oedd ball ar gariad edmygol Caledfryn at wyr mawr ei hen enwad; ac efe, ei hun yn ddirwestwr