Tudalen:Gwaith Caledfryn.pdf/9

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Rhagymadrodd.

GANWYD William Caledfryn Williams yn Ninbych, Chwef. 6, 1801; bu farw yn y Groes Wen, Morgannwg, Mawrth 23, 1869. Ac yno yr hun, ger hunell Ieuan Gwynedd, gŵr tebyg iddo.

"Un o blant siomedigaethau oedd efe," ebe ef ei hun, "o gychwyniad ei ddyddiau." Yr oedd ei rieni yn gysurus, ac mewn masnach weu helaeth, ac yr oedd gobaith iddo yntau gael addysg dda, os nad hawddfyd; ond daeth dyryswch. i'r fasnach, a gorfod iddo ddibynnu arno ei hun. Buasai'n faban gwan, cafodd fagwraeth dyner; ond gorfod iddo ymdaflu i ganol dynion prysur ac ymdrechu i ennill ei damaid fel ereill. Cafodd fynd i Goleg Rotherham, ac yr oedd wrth ei fodd yno; ond yr oedd hen anwyd gawsai wrth groesi Mynydd Hiraethog wedi ymaflyd mor dynn ynddo fel na fedrodd aros ond am ryw bedwar mis. Cafodd alwadau i laweroedd o leoedd, ond siaradai mor onest a lym fel na fu'n hapus yn unlle dan ddiwedd Yr oedd ei onestrwydd pybyr, ei ffieidddod o bob rhagrith a thwyll, ei ddirmyg at y gwael a'r ofergoelus, yn ei wneud megis gŵr a chleddyf yng ngolwg y llaweroedd.


O'i febyd, llenydda a barddoni, cadw ysgol