Tudalen:Gwaith Caledfryn.pdf/17

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

CALEDFRYN.

AWENYDD.

AWENYDD a adwaenir—wrth ei gwedd,
Ac wrth y gwaith wnelir;
Nid yw pob peth a blethir,
O'r un waed a'r awen wir.

Nid rhydd awenydd anian—ydyw swn
Cydseiniaid yn clecian;
O dinc i dinc, yn rhincian,
Mae oer gerdd rhigymwr gwan.

Llwyd wau rhimynau meinion—dienaid,
Dyna wna ynfydion;
Awen uchel, annichon
I'r dyn hurt wir adwaen hon.

E ddyrydd ansoddeiriau,—heb ochel,
Nes beichio brawddegau ;
Swn a gwynt, yw'r cwbl sy'n gwau,
Yn ei hyllion linellau.

Gwehilion beirdd, gwaelion byd,—ni wyddant
Rinweddau'r gelfyddyd;
Ond llarpiant, hacrant o hyd,
Wyneb awen a'i bywyd.

Toraeth ar doraeth dyrrant—o eiriau,
Twrw mawr a gadwant;
Dwyn nerth ein iaith dan warth wnant;
Beirdd o awen bardduant.