Os gallant ddyfeisio gwallau—gofrestr
Neu gyfrif mân feiau,
Rhodreswyr, rhigymwyr gau,
Ni ddaliant ar feddyliau.
Plisgyn yr englyn a rydd—ddifyrrol
Wledd fawr i goeg brydydd;
Ni wiw son, nad hynny sydd,
Wrth hwn, yn nerth awenydd.
Rhoi meddwl a grym iddo—yn ei waith,
Ni ŵyr ddim am dano;
Byw ar waeledd a brolio,
Efo thwyll wna ei fath o.
Dwl a dyrus dlawd eiriau—ag arnynt
Glogyrnawg gymalau,
Dyna geir i gyd yn gwau
Yn marddoniaeth myrddiynau.
Mae ereill am ymyrraeth—â'r awen
Heb reol na mydraeth,
Ac am rwygo Cymreigiaeth,
A blin droi y cwbl yn draeth.
Heddyw'n mysg prydyddion mân—y bryddest
A'r breuddwyd yw'r cyfan;
Caniad heb deimlad, heb dân,—
Rimynir heb rym anian.
Ceir geiriau, ddegau ddigon,—yn wallus,
A llinellau lleicion;
Yn dynwared yn wirion
Waith y Sais—mae'n aethus son.
Dynwarediad dianrhydedd—yw oll,
O'i waith, heb ei fawredd;