Tudalen:Gwaith Caledfryn.pdf/19

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Harddwch ia—pruddach ei wedd
Anghenus na'r gynghanedd.

Yn nwylaw meddwon halog—bu'r awen
Dan ei briw'n flinderog;
Gan wyr llaith o ganwyr llog,
A ganent am y geiniog.

Difyrrwch uwch dyferyn—o ddiod
Oedd awen bolerddyn;
A chas aeth o achos hyn
I deilwng fardd ei dilyn.

Awenyddion rhinweddol—yw rhif fawr
O feirdd sy'n bresennol.
Bolerwyr, glerwyr y glol,
I daw sy'n cael eu deol.

POB PETH YN LLEFARU AM DDUW

MI syllais ar y graig
Mewn eira byth sy'n nghudd;
Ac ar y blodyn tlws
Wrth odre hon y sydd ;
A'r clogwyn aruchel, a'r isel flodeuyn,
Eill dau a ddadguddiant Hollallu diderfyn.

Fe glywais ru y môr
A'i dwrf yn codi braw;
A'r ffrwd yn araf iawn
Yn mynd i'w wely draw;
A'r môr mawr a'r ffrydlif ynghyd a fynegant
Am Dduw eu Creawdwr o hyd tra'r ymroliant.

Gofynnais i'r haul claer
Dywynnai ganol dydd,