A'r ser fil myrdd y nos
Yn gloewi 'r nen y sydd ;
A'r ser oll a'r haulwen y wers yma ddysgant,
Mai gan Dduw eu golau i gyd oll dderbyniant.
Fe welais y pryf bach
Yn mynd drwy dom a llaid;
A dyn ger bron y Nef
Yn codi 'n syth a gaid;
Ac eto y pryfyn a'r dyn sydd yn gwisgo
Ol llaw eu Creawdydd, efe fu'n eu llunio.
Fe dreiddiais galon dyn,
Teimladau 'r enaid drud,
A chefais ateb gwir
I'r gofyniadau i gyd;
Y rhai mewn acenion difrifol ddywedant
Mai o Dduw y daethant, mai at Dduw dychwelant.
|
(Ar warth y Cymro a gywilyddia arddel iaith ei Wlad.)
TI, Gymro, wado'th iaith odiaeth,—ydwyt
Yn nôd o ddifriaeth;
Nid oes wr o gyflwr gwaeth
I'w weled, mewn un dalaeth.
Aneisor druenuswaith—yw gwadu
Ein gwiwdeg Omeriaith;
Ow, bwrw i lawr bybyriaith
Lân oll, am eulun o iaith!
Er anwar lid estroniaid,—a'u gwaethaf
Fygythion melldigaid;
|