Tudalen:Gwaith Caledfryn.pdf/21

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yn hyf, safai'n hynafiaid,
Hoff lu, hyd angau o'i phlaid.

Os oes rhai o'r Saeson—yn ei gwadu,
Fe gwyd llu o'i meibion,
Hyd ein tir, a gwadant hon,
Yn waeth na'r rhein'y, weithion!

Drwy'r gwledydd, beunydd, heb ball,—er's oesau,
Mae pob rhyw Sais doethgall
Yn parchu'n hiaith geinfaith, gall,
Diau, cyn dod i'w deall.

Er rhwystrau, os yw'r estron—yn hoffi
Ei hamddiffyn, weithion,
Beunydd, cywilydd calon
Ydyw i'w hil wadu hon.

Ni ŵyr hwn am fawr o'i rhiniau,—nag am
Ei gemawg blethiadau ;
Ond cest ti, 'n wir, hir fwynhau
Rhagorol berdra 'i geiriau.

Pan yn faban gwan, gynnau,—was dinerth
Cest hon a'i theg eiriau
I ddweyd i'th fam, glodfam glau,
Erioed, am dorri'th reidiau.

Y gadarn Gymraeg odiaeth,—O, arddel
Mewn urdd a dyrchafiaeth,
Na ddod hon, iaith ffrwythlon, ffraeth,
Heibio, er mwyn dy fabiaeth !

Os oes, yn ein hoes gywrain ni,—alon
Am weled ei cholli;
Gwrolion Frython, drwy fri,
A sai'n addas i'w noddi,