Tudalen:Gwaith Caledfryn.pdf/22

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Gwêl, agwrdd gampwyr golygus,—hoff lu,
Sydd o'i phlaid yn drefnus;
A bratiog gabldraith Brutus
Aflêr, a chwelir fel us.

Herwydd, mae'r dydd ar wawrio—ar ein hoes
Na cheir neb i'w bleidio;
Yna'i waith a'i enw o,
Wrthwingwr, syrth i ango'.

LLYFR DAFYDD IONAWR.

OS Ionawr a roes inni—yn Meirion
Un mawr i'w gofnodi,
Ei loew ddawn ni welodd hi,
Na Ionawr na phenwyni.

Newydd oedd, ni wywodd hi,—ni wywai
E'n ei swydd ati,
Daliai 'i nerth, odlai i ni
Yn ei henaint yn heini.

Dilwgr ydoedd pob dalen—a lwybrodd
Ei oleubryd awen;
Esgyn i fysg cân nef wen
Yr ydoedd ar ei haden.

Ei ddihalog feddyliau—a nofient
Mewn nefol syniadau;
Tân ei gerdd, at destun gau,
Ni roe Ionawr aurenau.

Ei daran ef drwy y nen—sy eglur,
Sigla y ffurfafen;