Tudalen:Gwaith Caledfryn.pdf/23

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Llewyrch y byllt oll uwch ben,
Rai ebrwydd, daniai'r wybren. [1]

Twrf annwn dros y terfynau,—damchwa
Yn dymchwel mynyddau;
Rhu hydrwyllt y rhaeadrau,
A moroedd yn ymryddhau;

I fwrw ei helfen farwol—yn ddylif
Na ddaliai'r creig oesol,
I lenwi yn olynol,
A barn Duw, bob bryn a dôl;

Hyn oll a geir yn ei waith,—a chriau
Tra chroewon anobaith,
Rhai ddaliwyd gan oer ddylaith,
Dan lid a nerth y donn laith.

Dewi a welodd y dyli—a'i rym
Ei rwysg mawr yn gefnlli',
A'i feirwon yn niferi,
Oer a llwm ar warr y lli'.

Noah welodd yn hwylio—ar y dŵr
Uwchlaw'r donn a'i chyffro,
A Ior Nef i'w arwain o
Yn nawdd a tharian iddo.


  1. Golygir yn yr englyn hwn, a'r rhai canlynol, Cywydd y Daran, a Chywydd y Diluw.