Tudalen:Gwaith Caledfryn.pdf/24

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

JOHN ELIAS.

'I law, a'i ddull rhyw luoedd—a swynai,
Nes ennill tyrfaoedd;
Tra o'i flaen, tarawai'i floedd
Trwy eneidiau, taran ydoedd.

Gyrrai y mellt â grym mawr—i wibio,
Gau obaith wnai'n llwydwawr;
Twyll darfai, cestyll dirfawr,
Arwr llym, fwriai i'r llawr.

Am ei olwg, a'i ymweliad—â sir,
Rhedai'r son drwy deirgwlad;
Yn ei enw eneiniad
Swynol oedd—synnai y wlad.

Yntau a'i enaid yn taniaw—welid,
A'i olwg mewn cyffraw,
Troai fe'n brudd trwy ofn a braw,
Annuwiolion i wylaw.

Dygai werth gwaed bendigaid—ei Brynnwr,
Ger bron euog enaid;
Ato i'w lys, o'r tew laid,
Tan nawdd Ion tynnodd weiniaid.

Mor dawel y mae'r diwedd—i'r golwg;
Mor gul ydyw'r annedd;
Rhedlif y mawr hyawdledd
Synnai y byd sy'n y bedd.