Tudalen:Gwaith Caledfryn.pdf/27

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Awdl Beaumaris

DRYLLIAD Y "ROTHSAY CASTLE."

Awdl ar ddrylliad yr agerlong Rothsay Castle, gerllaw Beaumaris, Awst 17eg, 1831

WYLLT wênwr hallt ei waneg,
Llawn o dwyll yw ei wên deg;
Llyfn iawn ydyw, heddyw, heh
Arw donn ar hyd ei wyneb;
Y donn flin, erwin, orwyllt,
Effro'i naws, gyffroai'n wyllt,
Nes ydoedd yn arswydaw
Pob bron, llenwi pawb â braw,
Sy heddyw, mewn naws addien,
Yn lle cyffro'n gwisgo gwên;—
Och! ffalsder, digter y donn,
A'i dinistr ar feib dynion.


O! 'r waedd oedd ddoe, a'r weddi,—o ganol
Y gwynwawr groch weilgi;
Wyn fôr, rhoes i niferi,
Wely llaith, yn mol y lli!


Llon oeddynt, tybiynt gael taith,
A mwyniant teg am unwaith;
A gweld y llestri yn gwau,
Hyd wyneb gwyrddion donnau,
Heb ofni gwynt, heb ofn gwg,
Na gwaelod môr na'i gilwg;
Cael iach daith, gwibdaith, deg wedd,
Drwy ganol rhandir Gwynedd,
I ganfod teg wynfyd hon,
A'i glwyswawr fryniau gleision:
Tynnu anadl, tan wenu,
Heb flinder neu dosder du,
Mewn iachus, haelionus le;