Tudalen:Gwaith Caledfryn.pdf/28

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Awyr bur hwyr a bore;
A chael cyn eu dychweliad,
Weld ceinion glwysion ein gwlad.
A byw'n llawen ar ben bwrdd;
Mordeithio neu rodio'r ardd;
Taith ddestl, heb dymestl, heb dwrdd,
I fyny hyd Fenai hardd.

Neu gerdded drwy'r coed gwyrddion.
Lwyni heirdd, ar lannau hon,
I wrando ar gywreindeg
Gerdd lon y cantorion teg.
Sy'n plethawl, doniawl gyd wau
Yng nghanol y canghennau;
A rhodio llawer adeg,
Drwy'r Morfa,[1] rodianfa deg.


Lle i dawel ymneillduo—o boen
Twrf y byd a'i gyffro;
Yr harddaf, hyfrydaf fro
Is haulwen, i'w phreswylio.

Niferi fydd o fawrion,
Yn llu, yn tynnu at hon.


Pigion enwog, goludog y gwledydd,
Erioed, a lanwant yr ardal lonydd;
Yno cyd—wleddant,—yfant yn ufudd
Awyr ei Menai o'r môr a'r mynydd;
Ymlwybrant, rhodiant, yn rhydd—drwy'r wlad dda,
Yn iach eu gwala, yn mreichiau'u gilydd.


Llawer gwr fy'n llwyr gurio—yn ei bryd,
Nes oedd bron diffygio,

  1. Beaumaris.