Tudalen:Gwaith Caledfryn.pdf/29

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ddaeth i hon, hyfrydlon fro,
A rhodd iachâd llwyr iddo.


Rhydd ei thiroedd, lleoedd llon,
Deg olwg gwyd y galon;
Hyd drumau hon, ceir tremyn
Ar siriawl wawr Seiriol wyn,
A Gogarth fawr, freinfawr frig,
Graig o adail grogedig;
Y cydiol greig fel cadwyn
Gan y wlad o Gonwy i Leyn.


Eu bannawg, uchel bennau—yn saethu
Yn syth i'r cymylau;—
Y mae yn werth in gael mwynhau—gwibdaith,
I lwybro unwaith hyd ael ei bryniau

Er gweled harddfawr golofn,
Dra destl ein gwladwr di ofn;
Drych rydd edrych ar hon,
A golwg draidd i galon;

Darluniad o'r elyniaeth—trywel oedd
Yn Waterloo ddiffaeth;
A'r distryw, ddistryw na ddaeth
Un o'i ail, ar ddynoliaeth.


Cofir trwm loesau, rhwygiadau ergydion,
Mwg a niwl tramawr magnelau trymion:
Mawrwych garlamiad y meirch gerlymien;
Y drylliad ar fagad o arfogion;—
Ac aberth mawr, mawr lew Môn,—cael dyrnod
Nes torri'i aelod yn nistryw'i alon.


Cestyll rhyfedd Gwynedd gain,
A'i chaerydd sy dra chywrain;—