Tudalen:Gwaith Caledfryn.pdf/30

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

A'r gadarn Bont grogedig,—i fyned
Dros Fenai chwyddedig;
Heb ofyn dim,—heb ofn dig
Rhuadwy'r môr berwedig.


Uchelgamp i'r croch weilgi—yw syflyd
Ei saflawr naʼi meini;
Deil tra bo mawr, lasfawr li
Uthr donn, yn rhuthro dani.


Yn lle'r cychod oedd yn bod, a'r badau,
Y rhai, gan ddyrnod, a rwygai'n ddarnau,
Wele drosglwyddiad rhad, wrth bob rheidiau,
O gyrraedd dinistr y garw-wedd donnau,
A bloeddiog, groch gableddau—porthweision,
A gwaedd eon eu dieflig weddiau!


A dynion a'u meirch danynt
Ar garlam, garlam drwy'r gwynt;
Nid ofnant y deifr dyfnion;
Llonnant, pan y teithiant hon;
Degau o gerbydau'r bôn,
Uwch agwrdd ddyfngrych eigion,


Yn rhedeg yn rhuadwy,—a chroesi
Echrysawl ryferthwy;
O olwg a fu olwg fwy
Nodedig a chlodadwy?


Mae twrf olwynion chwyrnion a charnau
Y meirch nerthawl, trinawl, fel taranau;
Cywirlym ydynt y carlamiadau
Geir goruwch dannedd yr egr groch donnau;
Danynt, yn y gwynt yn gwau,—drwy ei phyrth,
Wele lu engyrth, yn hwyliaw, o longau.