Tudalen:Gwaith Caledfryn.pdf/31

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Bawb un ddull, mynd bob yn ddau
Hyd lennydd pysgodlynau;
A sylwi ar risialwawr
Gloew ddwfr glân, a'i wiwlan wawr;
Dwr o'i yfed, yr afiach,
Gwan ei wedd a ddwg yn iach;—
Lle mae'r pysg yn cymysg wau,
Mor lon, mewn amryw luniau.


A gweled, gyda'u gilydd,—ugeiniau
O agenawg greigydd;
A'r rhaeadr ar raeadr rydd,
Dwrw gwyllt drwy y gelltydd,
Bistyllia, ffrystia'n dra ffrom;
Chwyrna wrth edrych arnom;—

Cael rhoi gwib hyd grib y graig,
Iach aelgref, yr uchelgraig;
Chwilio'i chau fwngloddiau glân,
A'i chelloedd yn wych allan;
Dringo'r Wyddfa, gopa gwyn,
A chware ar ei choryn;
Lle'r nifwl, gwmwl teg yw,
Cam i wlad cwmwl ydyw;
Ceir yma olygfa lon
Ar ddirfawr froydd Arfon.


Gwelir o'r cwrr bwygilydd—i lawer
O luoedd o wledydd;
A'r haul mad, ar doriad dydd,
Yn agoryd ei gaerydd;

Ei dêr wynepryd eirian,
Aur liw, wrth ddringo i'r lan,
A'i wrid, yn ymlid y nos,
O'i ddorau yn ddiaros.