Tudalen:Gwaith Caledfryn.pdf/33

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Cyn rhoi'n olau, amlygiadau,
O'u bwriadau i fynd o'u brodir,
A throi, weithion, ar daith eon,
Trwy y wendon, i estrondir,
Anhawdd iawn oedd, yn ddinam,
Dweyd am hyn, wrth dad a mam.


Troi draw, ag wylaw o galon,—yn rhwydd,
Yr oeddynt ddeigr heilltion;
A'u gruddiau teg, lliwdeg, llon,
Un ffunud a dwy ffynnon.


Fel yr hwyliynt, colli tremynt,
Yno'r oeddynt, arni'n raddol;
A chaddug llwyd, gorchuddiol—ar drumau,
Aeliau ei bryniau, a niwl wybrenol.


O'u golwg hi a giliodd,
Y niwl tew â'i law a'i todd.


Disgwylient, tybient, gael taith, a dychwel
I'w gwlad iachus eilwaith;—
Heb baid, eu llygaid yn llaith,
Am eu hardal, drwy'u mordaith.


Rhoddi eu hyder, yn bur ddioedi,
Yn yr agerddlong, y nofiai'r gwyrddli,
Ac yna meddwl, meddwl am iddi
Rwygo 'i wyn gesig, a'u brigau'n gwysi,
A'u dwyn i'r lan, ar hyd anwar li,—heb
Ofn trychineb na môr yn trochioni.


Nid oedid, rhoddid yn rhydd,
Olew ar ei hechelydd;
Ffrystio gwneud corff o eiriasdan,
A pharotoi 'i hoffer tân.


Yr agerdd yn dyrwygo,—yn bybyr,
Drwy'i bibell dan ruo,