Tudalen:Gwaith Caledfryn.pdf/34

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Poeri'n wyllt o'r pair wnai o,
A chyffrowyllt groch ffrio.


Gwedi, yn nghanol godwrdd,
I bawb ddyfod ar y bwrdd,
Acw chwannog gychwynnynt,
Fawr lu hardd, i'r farwol hynt,
O Lynlleifiad i'r wlad lon,
Diriondeg drwy y wendon.—
Llwyth gwerthfawr o drysawr drud
Anhefelydd,—prif olud:
Heb feddwl, heb feddwl fawr
Am y drom ystorm dramawr,
A'r greulon, annhirion nos
Erwin, oedd yn eu haros.


Yn ddir, ydoedd ei rhodau,—drwy agerdd
Yn dyrwygaw'r tonnau;
Dyrchodd ei mwg yn dorchau,
Hyd y nen, yn dew dan wau.


Hwythau y peroriaethwyr,
Drwy ainc, rhoddent gainc i'r gwyr;
Tybient y meiddient â'u mawl,
Yn ei chastell, gorchestawl,
Herio'r môr a'i rym mawrwyllt,
Ac eigion y wendon wyllt;
Ond Och! y garw siom du
Ddeuai arnynt i ddyrnu;
Eu holl obaith ymaith ai, Fel ia unnos diflannai;
Y môr ffrochwyllt, orwyllt wedd,
A'i ddwr yn llawn cynddaredd;
Twrw a dinistr ei donnau
A'u trem hyll yn cyd—drymhau.