Tudalen:Gwaith Caledfryn.pdf/35

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Crychferwai, ymrwygai y mawr eigion,
Ewynnai 'i aflonydd donnau'n flinion;
Unwedd a 'mwriawl fynyddau mawrion,
Och oedd ei grothawg, fawr chwydd hagr, weithion;
Ymluchiai, taflai pob tonn—hyd y ser,
Yn eu gorwyllter, eu dagrau heilltion.
E ddeuai eilwaith yn nerthol ddyli,
O entrych hoewnef, gan wyllt drochioni,
Nes rhwygo y safngerth, aelgerth weilgi
Anferthawl, a'i ddreigiawl gynddeiriogi;
Y llong yn mherfedd y lli—ymsiglodd,
A tharanodd pob peth ei thrueni.


Duw, arwr y gorddyfnderoedd,
A'i enwog lais, yn galw oedd,
Ei filoedd i ryfela;
Ni welid pelydr haulwen,
Y ne'n ddu, bygddu uwch ben;
Twrf corwynt, drowynt o draw,
Yn yr awyr yn rhuaw.
Dan chwiban da'i allan o'i 'stafellau,
A heriai fydoedd, drwy'i gynhyrfiadau;
A Duw a roddodd lacâd i raddau
I ffrwyn gadwynog y ffyrnig donnau;
Rhuthrodd, fe ddyrnodd y ddau—'sglyfaethgar,


Drwy'u bar anwar, nes duo'r wybrennau!
A'r Rothsay, hithau ar hynt,
I dir angau, 'n mynd rhyngynt.


Weithiau i frig dig y donn—y dringai,
Drwy angawl ymdrechion,
Wedyn lluchid, hyrddid hon:
I'r gwgus ferwawg eigion.