Tudalen:Gwaith Caledfryn.pdf/36

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ymroliodd drwy'r môr heli,—ac eilchwyl
Golchai yntau drosti;
Ail ydoedd, yn ei ch'ledi,:
I flewyn llesg o flaen lli.


Gwibiai'r dyfn for, gefnfor gwyn,
Anfoddog, fel hurt feddwyn;
E lynai ei holwynion,
Eu tro chwai a dagai'r donn;
Cryfder yr ager a'i waith,
A'i hoffer yn ddieffaith;
Hi droe o'i phwynt yn dra phell,
Dan ysgwyd ei hun asgell;
Yna'n ol i hwn eilwaith,
Yn erbyn y moryn maith,
Nes syrthiai'i lif, gefnllif gwyn,
Erch aruthr ar ei choryn:
Ysigwyd hi, nes agor
Ochrau ei muriau, i'r môr.


Ac e lannwyd calonnau—y dynion
Ag ofn dinistr angau;
Gweld ei safn anferth, gerth, gau,
Yn agor drwy'r gwanegau!

A'r llong ar y garwfor llaith,
Mynd waelach, waelach eilwaith.

Tra anhawdd dweyd trueni,—neu helynt,
Yr olwg oedd arni;
Llu'n ubain, llefain, uwch lli
Rhyfeddol, bron ar foddi.

Ac ereill yno'n gorwedd—yn gleifion,
Mewn gwylofus dromwedd,
A'u henaid mewn anhunedd,
Yn wael eu gwawr, gwelw'u gwedd.