Tudalen:Gwaith Caledfryn.pdf/37

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Er i wyr, amryw eiriol,
Yn daer yn awr am droi'n ol;
Er gweled drwy argoelion,
Mai'u lle fyddai dyfrlle'r donn,
Yn mlaen ae'r llyw mileinig,
Drwy donnau'r dyfnderau dig.

Treiddio yr oedd bloedd ei gableddau—'r aig,
Wrth regu'r elfennau;
Creulon oedd, ei galon gau,
At enwog Lyw y tonnau!

Ei forwyr, yn llafurio—yn eon,
Mewn awydd cael glanio,
A'r môr a'r gwynt, trymwynt tro,
Anhiriawn yn eu herio;

Baeddent, ymdrechent yn drwm,
A mawr rwysg y môr a'i rym;
Toddi mewn cyni, bob cam,
A phoen dost, heb ffynnu dim:
Y ddryghin flin, aflonydd,
Wedi dal ar hyd y dydd,
Nes oedd yr haul yn soddi
I'w wely llaith,—bol y lli;
A hwythau, druain, weithion,
A llef hallt, yn mhell o Fon,
Ac eirf dinistr, cryf donnau,
Wyneb certh, yn bywiocâu,
A llawer, uwch dyfnder du,
Yn llegach, bron llewygu;
Y ser, rhag trymder y tro,
O'u gŵydd, yn llwyr ymguddio;
Nid ellent, 'nawr, dyallwn,
Edrych yn yr hagrddrych hwn;