Tudalen:Gwaith Caledfryn.pdf/38

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Gweld grym angau llym gerllaw,
Mor aethus yn ymrithiaw.

Dan ysboncio, neidio'n wyllt,
Yn hir, ar y donn orwyllt,

Hwy gyrhaeddent, yn wlybion eu gruddiau,
I le eu dinistr, drwy lu o donnau;
Ymagorodd, gor-ruthrodd dwfn grothau
Y dyfroedd yn gannoedd o agenau;
Gwelid, yn ddigon golau,—ofn bedd llaith,
Drwy anobaith, yn duo'r wynebau.

Ac ar hyn, twrf gerwinawl—a glywid,
Nes oedd glewion nerthawl
Yn syn, mewn dychryn di dawl,
Yn y man annymunawl."

Y llong ar draethell angau,—yn gerwin
Guro'i hun yn ddrylliau;
Ydoedd ei thrwm ddyrnodiau
Gerwin fel daiargrynfâu.

Gan uban, mewn gwan obaith—yn eu ffrwst.
Deffroes pawb ar unwaith,
Ond uwch na llef, fonllef faith,
Tair mil, oedd y 'storm eilwaith.

Bwriai y cenllif berw-wyn,—tra uchel,
Ei heillt drochion gorwyn;
Ysgubai, rheibiai'r gwyr hyn,
I aneddau'r annoddyn.

Drymed oedd eu caledi!—O! 'r wylo,
O'r olwg oedd arni;
Pwy wna ddrych i edrych i
Hanner y mawr drueni?