Tudalen:Gwaith Caledfryn.pdf/39

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Rhai'n och'neidio, rhai'n gweddio,
Ac yn wylo'n drwm gan alar;
Rhai'n gwallgofi, rhai'n ymroddi
I'w trueni, ddistryw anwar;


Ereill wyr, mewn rhyw hyll wedd,
Tynnu'u gwallt yn eu gwylltwedd;

Rhedent mewn cyffroadau,—i geisio
Osgoi ias oer angau;
A'i eirf hyll, ail ymgryfhau,
Yn ei antur, wnai yntau.

Yn ei wŷn, gwelai'n honnaid,
Y paith blwng,—pob peth o'i blaid.

Y nos wedi gorchuddio'r nen,—caddug
Yn cuddio pob seren,
A'r rholfawr, anwar elfen,
A'i bâr yn ffyrnig dros ben.

Anal y llong yn nghanol lli—hyllig
Yn hollol ddiffoddi;
Llifeiriant yn hyll ferwi,
Rhwng ei chandryll estyll hi.

O le tost! wele y tân
Wedi hollawl fynd allan;
A'i holwynion yn glynu
Ar draethfan y Dutchman du;
Ac er i'r gwyr oer eu garm,
Chwilio am y gloch alarm,
Er fod ei swn hynod hi,
Garw son, yn llawn gresyni,
Eto, er rhoddi ateb
Iddyn' nhwy, ni chlywodd neb:
O'r diwedd, uwch deifr duon,
Pallodd dyrnod tafod hon.