Tudalen:Gwaith Caledfryn.pdf/40

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yn awr y gwelir pob argoelion
Gyda'u gilydd, y gwaeda y galon;
O pa deimladau, aethau, weithion,
A feddianna'r fath dorf o ddynion;
Rhai nad ynt, uwch gerwin donn—yn gweled
Un ymwared, mwy nag i'r meirwon.

Dychryn enaid sy'n dechreu enynnu,
Yn ei wylltineb, gan erchyll felltennu,
Drymach, drymach mae angau'n hyll—dremu
Yn eu hwyneb,—a'r môr yn ewynnu,
A dannedd hallt y donn ddu—'nawr ydynt,
Oll am danynt yn erchyll ymdynnu.

Y tadau tirion, trymion yn tremu
Ar eu haneisor ddinistr yn nesu;
Ymwylltient, a cheisient ymlochesu,
Ow anhap hyllig!—pob peth yn pallu;
Y ne'n ddwl, pob man yn ddu,—a'r halltfor
Garw yn agor dan ysgyrnygu.

Y fam druan a'i bychan yn beichio,
Yn ei alaeth, a hithau yn wylo,
Heb wybod, ar yr hynod awr honno,
O anedwyddwch, beth i'w wneud iddo;
Er i eglur ddeigr dreiglo—ar ei grudd,
I angau diludd aeth rhwng ei dwylo.

O! fôr cuchiog, gwrando gri,
Nodda un newydd eni,
Rho wiwfad estyniad dydd
I'r hwn sydd bron a soddi.

Eu llwyr anedwydd, erchyll oernadau
A dreiddient, ac a rwygent y creigiau;
Ond swn y ddryghin erwin am oriau,
Och! yno, weithion, oedd uwch na hwythau;