Tudalen:Gwaith Caledfryn.pdf/41

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Er eu llafur a'u llefau, eu gwatwar
A wnai'r du, anwar, ddwfn for a'i donnau.

Wele rai, gan alar hallt,
Yn ymrwygo, 'n wallgo' wyllt,
Eu llygaid yn danbaid oll,
Troent, ymwibient fel mellt.

Ereill yn gallu ymdyrru'n dirion
I alw ar enw eu Duw, lywiwr union;
Yn Ior gafaelent, gan fwrw'u gofalon
Ar eu Ner agwrdd sy'n ffrwyno'r eigion:
Ereill yn suddo'n oerion—mewn trymder,
A hallt flinder i wyllt fol y wendon.

Rhai oedd yn serchog, galonnog lynu
Yn eu gilydd, er ymddiogelu,
Hyn ni chollent er i'r môr erchyllu,
Yn y tywyllwch, tra meddent allu;
Ond y groch donn, ddigllon ddu,—yn ddi-baid,
A wasgai'u henaid nes eu gwahanu.

Golchai'r tonnau'r Rothsay 'n ddrylliau,
A'u hergydiau trwm, rhwygiadol,
Cipio degau, gyda'r darnau,
Wnae y tonnau annghytunol.

Gwel fabanod mewn dychryndod,
Hwnt i'r gwaelod ânt o'r golwg;
Er yn wyneb môr a'i wg—rhag eu lladd,
Iddynt hir ymladd, ni ddont i'r amlwg.
Wele fenyw'n ceisio dal i fyny
Yn eigion gwyn drochion, gan ymdrechu,
A nerth anwar y donn ar ei thynnu
I'w choluddion,—Ow! dacw hi'n ei chladdu;