Tudalen:Gwaith Caledfryn.pdf/42

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ni chaiff ei cheraint tra chu—roi i hon fedd,
Wely oerwedd, nag arno alaru.

Lluoedd ar luoedd â i lawr,
I'r eigionau tra gwynwawr,
Er ceisio neidio'n nwydwyllt,
I frig y donn, wendon, wyllt,
O'u gofid, er cael gafael,
Yn narnau'r llong, wiblong wael,
Er hyn, y môr gerwinol
A'i lawn nerth, a'u taflai'n ol.

Ond rhai, yn eu hanffawd trwm,
O un galon yn gwlwm;
Yno daliasant, er eu du loesion,
A'u hynod ddychryndod, uwch oer wendon,
A Rhagluniaeth a'i heurog olwynion,
A'u noddai, a'u dygai'n waredigion;—
Rhown fawl, yn hyfawl, i'n Hion—am Ei rad,
Orwiw gariad a'i amryw ragorion.

Gair mawr a haeddai gwyr Môn—ereswiw,
A Syr Risiart dirion,
Am eu nawdd—ys hawdd fydd son,
Am danynt tra trem dynion.