Tudalen:Gwaith Caledfryn.pdf/45

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Y GWANWYN.

NID oes dim ia ar warr y llyn
Na rhew ar fryn na mynydd;
Blodeuog yw briallu'r fron,
A gwyrddion ydyw'r coedydd;
Datodwyd clo y nant a'r ia,
Fe dreigla yr afonydd.

Y ddaear sydd yn wych ei gwedd,
A'i hagwedd yn llawn bywyd;
Ei chwysau'n barod sydd i waith
Ar ol hin laith ac anwyd;
Fe ddaeth y Gwanwyn ar ei dro
I'w deffro a'i dadedfryd.

Er gwywo'i gwedd, a cholli 'i phryd,
A dwyn ei chlyd fantelloedd,
Wrth fod mewn llafur trwm dros ddyn
Bob blwyddyn am ganrifoedd;
Mewn gwawr mor newydd ag erioed
Cadd er ei hoed ail wisgoedd.

Fe'i gwelir, yn y Gwanwyn gwyrdd,
A myrdd o'i hepil meirwon,
Yn dod i'r lan, a'u lliw yn iach,
A'u gruddiau bach yn gochion;
A rhai yn wyn, rhai'n wyrdd, rhai'n frith,
Yn dewfrith hyd ei dwyfron.

Ni fydd na maes na dôl na bryn
Y Gwanwyn heb friallu,
A'r rheiny, ar bob dyn a'u gwel,
Os heibio'r el, yn gwenu;
A'r adar mân, ar frigau'r pren,
Yn llon uwch ben yn canu.