Tudalen:Gwaith Caledfryn.pdf/46

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Y gwlith o berl fu'n llechu'r nos
Yn mynwes y rhosynau,
Fydd yn ffarwelio'n llwyr yn awr,
Ar doriad gwawr y borau,
Gan fynd i'w taith, i'r nef uwch ben,
Ar amnaid haulwen olau.

Y mae holl natur dan ei hurdd,
Mae'n wyrdd bob bryn a chlogwyn;
Mor brydferth ydyw'r ddôl a'r fron,
Mae meillion ar y dyffryn;
Ac O, mor hardd a fyddai'r byd
Pe bai o hyd yn Wanwyn.

Fe glywir tyner lais y gôg,
Ar lwyni brigog gwyrddion;
A thwit, twit, twit, y wennol fwyn,
Aderyn sy'n dwyn hinon;
A llu y goedwig yn gytun
O un i un mewn calon.

Bydd pawb o'r mwya' i'r lleia' oll,
Heb goll yn adeiladu;
Pob un a'i farn a'i ddull ei hun,
Heb neb yn ymgyndynnu;
Rhai'n uwch, rhai'n is, rhai'n wych, rhai'n wael,
Ond pawb am gael lle i lechu.


BYWYD DYN.

TEBYG iawn i syrthiad seren,
Neu fel eryr ar ei aden,
Neu wawr blagur ar eu dechreu,
Neu arianaidd wlith y boreu,