Tudalen:Gwaith Ceiriog.pdf/106

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

XI

Gwelais bren yn dechreu glasu
Ei ganghennau yn yr ardd
Ac yn dwedyd wrth yr adar,—
"Wele daeth y Gwanwyn hardd."
Daeth aderyn bychan heibio,
Ac fe safodd ar ei frig;
Ac fe ganodd gyda deilen
Newydd irlas yn ei big.

Daeth aderyn bychan arall
Ar las gangen yn y coed,
Fe ysgydwodd blu ei aden
Ac fe ddawnsiodd ar ei droed;
Canodd yntau, a dewisodd
Fan lle carai wneyd ei nyth,
O! mae'r Gwanwyn fel yn cadw
Natur hen yn ieuanc byth.

Eis o dan fy nghoeden fedwen
Ac mi godais fry fy mhen,
Ac mi welais ol y gyllell,
Lle torasid cangen Men.
Gwnaeth adgofion i'm ofidio
Na buasai'r gainc yn wyw;
Ond canfyddais gangen ieuanc
Yn y toriad hwnnw'n byw.

O mae gobaith mewn gwrthodiad,
Meddwyf innau wrth fy hun;
Er fy nhorri gallaf dyfu
Eto yn serchiadau'r fun.
Troes fy wyneb tuag adref,
Teflais lawer tremiad ffol
Tros fy ysgwydd at y fedwen
Lâs adewais ar fy ol.