Tudalen:Gwaith Ceiriog.pdf/15

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon
TI WYDDOST BETH DDYWED FY NGHALON

Achlysurwyd y penillion hyn gan eiriau
ymadawol mam yr awdwr,
pan oedd hi yn dychwelyd i Gymru, ar ôl talu ymweliad iddo.

Yn araf i safle 'r gerbydres gerllaw,
Y rhodiai fy mam gyda'i phlentyn;
I waelod ei chalon disgynnodd y braw,
Pan welai y fan oedd raid cychwyn.
Ymwelwodd ei gwefus—ei llygaid droi 'n syn,
Rhy floesg oedd i roddi cynghorion;
Fe'i clywais er hynny yn sibrwd fel hyn,—
"Ti wyddost beth ddywed fy nghalon."

Canfyddodd fy llygad mewn dagrau 'n pruddhau,
Gwir ddelw o'i llygad ei hunan;
Hyn ydoedd am ennyd fel yn ei boddhau,
Er nad fy nhristau oedd ei hamcan.
Ond er fod cyfyngder yr ennyd yn gwneyd
Atalfa ar ffrwd o gysuron,
Mudanrwydd rodd gennad i'w hanadl ddweyd,—
"Ti wyddost beth ddywed fy nghalon."

Nid son am gynllwynion y diafol, a'i fryd,
Er ennill ieuenctid i'w afael—
Nid son am ffolineb, a siomiant y byd,
Yr ydoedd pan oedd yn fy ngadael;
Dymunai 'n ddiameu bob lles ar fy nhaith,
Trwy fywyd i fyd yr ysbrydion;
Ond hyn oedd yr oll a ddiangodd mewn iaith,—
"Ti wyddost beth ddywed fy nghalon."