Tudalen:Gwaith Ceiriog.pdf/23

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

MI WELAF MEWN ADGOF

Alaw,—Difyrrwch Arglwyddes Owen

Mi welaf mewn adgof hen ysgol y Llan,
A'r afon dryloew yn ymyl y fan:
O'm blaen mae pob carreg yn rhedeg yn rhes,
A'r coedydd gysgodent fy mhen rhag y gwres.
Yng nghanol eu cangau mae telyn y gwynt,
Yn eilio 'r hen alaw a ganwn i gynt;
Rwy 'n teimlo fy nhalcen dan heulwen yr haf,
A 'nghalon yng Ngwalia ple bynnag yr af.

Rwy'n gweled y defaid a'r ŵyn ar y bryn,
Rwy 'n gweled gwynebau sy 'ngwaelod y glyn;
Rwy'n clywed rhaiadrau yn adsain o draw,
Ar mawrwynt yn erlid y cenllysg ar gwlaw.
O sued yr awel, a rhued y don,
Beroriaeth adgofion yn lleddf ac yn llon,
Boed cwpan dedwyddyd yn wag neu yn llawn,
Yng Ngwalia mae 'r galon ple bynnag yr awn.

DIM OND UNWAITH YN Y FLWYDDYN

Dim ond unwaith yn y flwyddyn,
Awn i fyny 'r cymoedd cain;
Awn i ogli 'r peraidd borwellt
Llysiau 'r mêl a blodau 'r drain.
Dim ond unwaith yn y flwyddyn
Gwena 'r ddaear oll fel gardd;
Awn am dro, tua bryniau 'n bro
Dim ond unwaith yn y flwyddyn,
Pwy na chwery, pwy na chwardd?