Tudalen:Gwaith Ceiriog.pdf/5

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Rhagymadrodd

Ar un o lethrau'r Berwyn y ganwyd ac y magwyd Ceiriog. Gadawodd ei gartref anghysbell a mynyddig pan yn fachgen; a'i hiraeth am fynyddoedd a bugeiliaid bro ei febyd, tra ym mŵg a thwrw Manceinion, roddodd fod i'w gân pan ar ei thlysaf ac ar ei thyneraf.

Mab Richard a Phoebe Hughes, Pen y Bryn, Llanarmon Dyffryn Ceiriog, oedd John Ceiriog Hughes. Ganwyd ef Medi 25ain, 1832. Aeth i'r ysgol yn Nant y Glog, ger y llan. Yn lle aros gartref ym Mhen y Bryn i amaethu ac i fugeila wedi gadael yr ysgol, trodd tua Chroesoswallt yn 1848, i swyddfa argraffydd. Oddiyno, yn 1849, aeth i Fanceinion; ac yno y bu nes y daeth ei enw yn adnabyddus trwy Gymru. Deffrowyd ei awen gan gapel, a chyfarfod llenyddol, a chwmni rhai, fel Idris Vychan, oedd yn rhoddi pris ar draddodiadau ac alawon Cymru.

Yn 1858 yr oedd yn adrodd rhannau o'i gân fuddugol,—"Myfanwy Fychan,"—yn Eisteddfod Llangollen, am y mynydd a'i gartref. Yn 1860 cyhoeddwyd ei "Oriau'r Hwyr;" daeth hwn ar unwaith yn un o'r llyfrau mwyaf poblogaidd yng Nghymru. Yn 1861