Tudalen:Gwaith Ceiriog.pdf/65

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

GOFIDIAU SERCH

Wyt ti'n cofio'r lloer yn codi
Dros hen dderw mawr y llwyn,
Pan ddywedaist yr aberthet
Nef a daear er fy mwyn?
Wyt ti'n cofio'r dagrau gollaist
Wrth y ffynnon fechan draw?
Wyt ti'n cofio'r hen wresogrwydd,—
Wyt ti'n cofio gwasgu'm llaw?

"Hyd fy marw" oedd dy eiriau,
Y parhaet yn ffyddlon im';
O fy ngeneth, O fy nghariad!
Nid yw poenau marw'n ddim.
Er wrth dorri'th addunedau,
I ti dorri'm calon i,—
Magi anwyl, mae dy gariad
Eto'n gariad pur i ti.

Mae'th lythyrau yn gwneyd i mi
Lwyr anghofio mi fy hun;
Mae dy gudyn gwallt yn hongian,
Fel helygen tros dy lun.
Llun dy wyneb, Magi anwyl,
O mae'n twynnu fel yr haul,
Nes'r wy'n teimlo gwae a gwynfyd
Nef ac uffern bob yn ail.

O f' anwylyd! er mai cyfaill
Yw yn awr fy enw i,
Maddeu i mi am ddefnyddio
Yr hen enw arnat ti;
Cariad wyt ti, Magi anwyl,
Bur ddihalog fel erioed;
Troi'st dy wyneb, cefnaist arnaf,
Minnau garaf ol dy droed.