Tudalen:Gwaith Ceiriog.pdf/66

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

WRTH WELD YR HAUL YN MACHLUD

Wrth weld yr haul yn machlud,
Mewn eurog donog dân;
A mil o liwiau'n dawnsio'n deg,
Ar fyrdd o donnau mân.
'Rwy'n teimlo dwyfol wyddfod—
Shecina Natur yw;
Yn datgan ei ogoniant Ef
Yr Hollalluog Dduw.

Wrth weld yr haul yn codi,
Yn loew lân ei bryd;
Rwy'n gweld y glaer Shecina fawr,
Yn amgylchynnu'r byd.
Os gormod gwedd yr heulwen
I lygad marwol ddyn;
Fath ydyw ei ogoniant Ef
Y Crewr Mawr ei Hun!

Ar godiad haul yng Nghymru,
Ces lawer boreu gwiw;
Pan blygai'm tad wrth ben y bwrdd,
I ddiolch am gael byw.
Caem eistedd yn y cysgod,
Tra'r haul yn croesi'r nef;
Mi gofiaf byth y weddi hwyr,
Ar ei fachludiad ef.