Tudalen:Gwaith Ceiriog.pdf/7

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gyfrol. Ni buaswn yn gofyn iddynt gyhoeddi y pigion hyn, oni buasai fy mod yn gwybod y codir awydd ymysg llawer i brynu y ddwy gyfrol brydferth gyhoeddwyd yn ystod bywyd Ceiriog, a than ei ofal, ganddynt hwy.

Ceiriog, yn ddiameu, yw bardd telynegol mwyaf Cymru. Y mae ei naturioldeb syml a'i gydymdemlad dwys wedi rhoi swyn anfarwol i'w gân. Nid oes telyn yn yr un bywyd na chyffyrdda Ceiriog â rhai o'i thannau. Tra aber yn rhedeg yn loew dros raian mân, a thra bo gwrid mwyn yn hanner gyfaddef serch, ca'r galon ddynol fwynhad a nerth o ganeuon Ceiriog.

"Alun Mabon" yw ei gampwaith. Y mae miwsig hen alawon yn yr odlau; y mae bywyd y bugail yma yn ei bryder a'i fwynder. Ynddo darlunia Ceiriog ei fywyd ei hun, a bywyd pob mynyddwr.

"Ond bugeiliaid ereill sydd ar yr hen fynyddoedd hyn." Nid teulu Ceiriog sydd yn byw ym Mhen y Bryn yn awr. Ym mynwent Llanwnog, ger Caersws, ymysg y bryniau hanesiol mud, y rhoddwyd y prydydd i huno. Ar groes ei fedd y mae ysgrif syml, ac englyn o'i waith ei hun,—

ER
COF AM
JOHN CEIRIOG HUGHES,
A ANWYD MEDI 25,
1832, A FU FARW EBRILL 23,
1887.