Tudalen:Gwaith Ceiriog.pdf/71

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Fe gadwaf finnau'r babi."
Y plentyn a hunai,
A'r tad a'i cusanai,
Ac yna fe ffodd i'r rheng.

'Roedd swn cleddyfau yn neshau,
Gwawchiadau ac ysgrechian;
A'r wraig weddiai'n daer ar Dduw,
Gan edrych ar ei baban;
Ac yna holltwyd drws y tŷ
Gan filwyr oddi allan.
A hithau mewn dychryn
A wasgodd ei phlentyn
Yn nes at ei chalon wan.

Ar glicied drws ei'stafell wag,
Hi welai fysedd llofrudd,
Ac ar y foment rhuthrodd haid,
Yn swn rhegfeydd eu gilydd;
A syllent fel gwylltfilod erch,
O amgylch ei gobennydd;
Ar wraig wan yn crynnu,
A ddaliodd i fyny
Ei babi bach diwrnod oed.

Atebwyd gweddi'r ffyddiog fam,
A hi a'i mab achubwyd;
Mae hi yn awr ym mynwent werdd
Yr eglwys lle'i priodwyd;
Ac erbyn heddyw mae y mab
Yn hen weinidog penllwyd,
Yn estyn ei freichiau
I ddangos y Meichiau,—
Y baban y anwyd i ni.