Tudalen:Gwaith Ceiriog.pdf/78

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

MILWR NA DDYCHWEL

"Ni syrthiodd neb erioed i'r bedd,
Na welwyd rhywun prudd ei wedd,
Yn gollwng deigryn arno;
Ond wrth i filwr fynd i lawr,
Mae gwlad yn dod i'w arwyl fawr,
A chenedl oll yn wylo."


A thithau, gyfaill, i dy fedd
Gollyngwyd ti,
Yn filwr ieuanc teg ei wedd—
Yn ei filwrol fri.


Pan wyliem dy febyd darllennem dy lygaid,
A gwelem wrhydri cynhennid dy enaid,
A gwreichion dy ysbryd yn cynneu dy rudd;
Pan droet orchestion dy gyfoed yn wegi,
A phob anhawsderau o'th flaen yn cyd-doddi,
Coronwyd ti'n arwr ym more dy ddydd.

Mae cofio'th rinweddau fel milwr a Christion,
Yn hafaidd belydru trwy brudd-der ein calon,
Yn taflu goleuni tros len dy goffhad.
Fe'th ddysgwyd yn fore am Dduw dy rieni—
Ond cyffiwyd y gliniau fu'n plygu mewn gweddi,
Yn haiarn i elyn dy Dduw a dy wlad.

Pan wyliem ormesiaeth a'i duon adenydd
Fel nos yn ymledu tros wyneb y gwledydd,
E rwygwyd yr awyr gan udgorn y gâd;
Dyrchafwyd y grechwen,—"Cychwynnwn,
cychwynnwn,
Yn ysbryd ein tadau arfogwn, ymruthrwn,"
Nes galwyd i'r frwydr holl gedyrn y wlad.