- Y FWYALCHEN[1]
EI GYRRU AT IFOR FAESALEG
Y FWYALCHEN awenawl,
Ymlyni gerdd ym mlaen gwawl,
Ceiliog wyd yn y celydd,
Yn ngoror dôl, yn ngwawr dydd;
Cyw'n y dail yn canu'n deg,
Caniadur acen hoew-deg;
Cyw a'r hoff lef cywair fflwch,
Cyfeilydd cân cof elwch;
Toniadur pen twyn ydwyd,
Tan y gaer wen tongar wyd;
Trydon dy fan ar lannerch,
Trydar syw, trawiadur serch;
Tref wanwyn yw'r tewlwyn tau,
Tŵr adail y trawiadau.
Tyn o goed a'r ton gwiwdeg,
Yn geiniad doeth mewn gŵn teg;
Du serchog yw'th glog mewn glyn,
A myfi sy'n d'ymofyn.
Dos o dir Gwynedd ar daith
Yn dirion iawn dy araith;
Hed erof, a bydd daerwalch,
Ar gân, i Wlad Forgan falch;
Hed yn bres i wlad Esyllt,
Hedwr i'th oed hyd goed gwyllt.
Gweli wlad olygiad lwys,
I brydydd mae'n baradwys,—
Morgannwg, wyn olwg nyf,
Ag anwyl ydyw gennyf;