Tudalen:Gwaith Dafydd ap Gwilym.pdf/34

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

'E gâr bardd y wlad hon,
A'i gwinoedd, a'i thai gwynion.
Gweli dri-phlas urddasawi
Ifor mau, nifer a'u mawl.
Ifor hael, un-fawr helynt
A'r tri haelion gwychion gynt,–
Nid hael Nudd yn rhoddi rhuddaur,
Wrth Ifor, deg anrheg aur;
Os mawrdeg y rhoes Mordaf,
Aur gwell gan Ifor a gaf;
A rhoddwr gwell na Rhydderch
Yw Ifor, lwys-ior serch.
Gwych Ifor, dewr-bor lle dêi,
Gŵr yngod a gair angel;
Gorau un gŵr a garaf,
Gwrdd ion im ; ei gerdd a wnaf.
Mi a ganaf &'m genau
Mwynair mawl i'r muner mau.
Pennaig gwlad yw'm paun glewdaer,
Praff erlyn, llyw terwyn taer;
Por y tir yn peri twg
Ar y gwin ym Morgannwg.
Fy myd, gwyn ei fyd a fai
Yn ei windorf i'w wyndai.

Dwg hyn yn falch, fwyalch fau,
Yn gariad i'r dyn gorau;
Gorau dyn yn ei gaer deg,
Yw'm Selyf ym Maesaleg.