Tudalen:Gwaith Dafydd ap Gwilym.pdf/48

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon
GWALLT MORFUDD

MAE tassel o wallt melyn,
Brig euraid, am gannaid gwyn;
Aur a gaid yn ddwy gadwyn,
A'i roddi'n faich i'r ddyn fwyn;
Caets euraid, fel coed sirian,
Cyfliw'r mellt, cofl o aur mân;
Brig gwynwydd yn barc ynial,
Aur goron am dirion dàl;
Dros ei deurudd, i'w chuddiaw,
Lloweth yn ddwy-bleth a ddaw,
Aur melyn am ewyn môr,
Tresi mận tros ei mynwor;
Bargod haul goruwch brig ton,
Lluryg euraid, lliw'r goron;
Cannaid ei grudd dan ruddaur,
Cofl aur wen, cyfliw a'r aur;
Dyn araul, lliw'r haul yr ha',
Ffrwd enwog, a phryd Anna.
To manaur yw tw' meinwen,
Teg yw'r gwallt, nid hagr yw Gwen.
Teg yw ei phen, Ddwynwen ddoeth,
O bai unawr yn bennoeth;
Myned i gribo manwallt
Meinir wych a manaur wallt;
A'i osod mewn ysnoden
Fel y daeth o foled wen.

Dyged y ddyn wridog-wych
(Llawen yw gwedd y llwyn gwych)
Mewn gwisg nefol i'm golwg,—
Fenaid yw y fun a'i dwg.