Tudalen:Gwaith Dafydd ap Gwilym.pdf/49

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

CLADDU Y BARDD O GARIAD[1]

Y FUN loew-lan, fal lili
Yw'r tal dan we aur, wyt ti.
Mi a'th gerais maith gwiwrym,
Mair deg! oes ymwared i'm;
Da dâl, rhag ofn dy dylwyth,
Dial parch, wyf heb dâl pwyth;
Y mae gennyf mau gynni,
Uchenaid tost' o'th chwant ti
O’m lleddi, amhwyll wiwddyn,
Yr em wen hardd, er mwyn hyn
Euog yth wnair, grair y gras;
Ymgel, wen, o'm galanas.

Lle teg glas, matras mainc,
Llan eos, llwynau ieuainc;
A'r gog rhag f' enaid a gân—
Ar irgoed, fel yr organ;
Paderau ac oriau'n gall,
A llaswyrau, llais arall;
Offerenau, a pher annerch,
A gaf fis haf, gofwy serch.
Aed Duw, i gynnal oed dydd,
I Baradwys a'i brydydd.

Minnau mewn bedd a gleddir,
Ym mysg dail a masw goed îr;
Arwyl o fedw irion
Yfory a gaf dan frig on;
Amdo wenwisg am danaf,
A lliain hoew feillion haf;
Ac ysgrin, i geisio gras,
I'm o'r irddail mawr urddas;
A blodau llwynau yn llen,
Ag elor o wyth gwialen;


  1. Amheuaeth gryf mae nid gwaith DapG ydyw, gw: Dafydd ap Gwilym net Cerddi'r Apocryffa Rhif A181